Pont Newydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:28, 19 Gorffennaf 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pont Newydd yw enw'r bont a saif ar ffin cwmwd Uwchgwyrfai rhwng hen derfynnau plwyfi Llanwnda a Llanbeblig. Mae'n croesi Afon Gwyrfai, yr ail bont ffordd o'r môr, a drosti ceir y ffordd A487, sy'n arwain at Bwllheli a Phorthmadog. Serch yr enw, nid y bont bresennol a godwyd tua 1810 a roddodd yr enw i'r pentref gerllaw, sef Bontnewydd. Mae'r enw yn cyfeirio at y bont flaenorol dros Afon Gwyrfai a oedd yno, mae'n debyg, yn gynnar yn y 17g pan godwyd Plas-y-bont gerllaw. Mae'r bont bresennol yn dyddio o amser creu'r ffordd dyrpeg trwy'r ardal.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma