Ysgol Eben Fardd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:54, 19 Gorffennaf 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgol Eben Fardd oedd yr enw a roddwyd yn gyffredinol ar yr ysgol a gedwid gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd) yng Nghapel Beuno, Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr. Yn 1843 bu anghydwelediad rhyngddo ef a'r Person a symudodd o'r Eglwys i gadw'r ysgol yn y bwthyn oedd yn eiddo iddo yng nghefn ei gartref - o'r enw Cefn. Yno y bu trwy 1844. Dyna'r flwyddyn y codwyd Capel y Methodistiaid yn y pentref a chafwyd yr oedfa gyntaf yno ar 18 Medi 1844. Cafodd Eben Fardd ganiat^ad i gadw ei ysgol yn y Capel hwn. Yr oedd yn flaenllaw ymysg y rhai a fu'n gyfrifol am godi'r capel ac fe'i henwyd yn Ebeneser o barch iddo.

Ar 2 Hydref 1850 agorwyd yr Ysgol Genedlaethol yng Nghlynnog. Nododd Eben Fardd hyn yn ei ddyddiadur a phoenai y byddai hynny yn amharu ar ei fywoliaeth. Cafodd gynnig bod yn brifathro yno ar yr amod ei fod yn cymuno yn yr Eglwys ond gwrthododd.

Ar 7 Hydref 1850 gofynnodd y Cyfarfod Misol iddo barhau i gadw ei ysgol. Codwyd ei gyflog o £15 i £20 y flwyddyn. Roedd i ddysgu plant y Methodistiaid am ddim. Pan agorodd Eben Fardd yr ysgol hon yng Nghapel Ebeneser dan y telerau newydd roedd yno dros 100 o ddisgyblion.

Codwyd Ty'r Capel yn 1861.

Yn 1863 agorwyd Ysgol Ragbaratoawl Clynnog Fawr gan y Methodistiaid Calfinaidd i baratoi dynion di-gymhwyster ar gyfer mynediad i goleg diwinyddol, ysgol a gaewyd ym 1929 pan gafodd ei symud i'r Rhyl a'i henwi yn Goleg Clwyd. Er bod Eben Fardd wedi marw ychydig fisoedd cyn agor yr ysgol, Ysgol Eben Fardd oedd yr enw cyffredinol arni.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma