Ysgol Eben Fardd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:43, 12 Gorffennaf 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgol Eben Fardd oedd yr enw a roddwyd yn gyffredinol ar yr ysgol a gedwid gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd) am nifer o flynyddoedd yng nghanol y 19g ym mhentref Clynnog Fawr. Am gyfnod fe gynhaliwyd yr ysgol yn y capel bach ar ochr Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr, sef Capel Beuno, cyn symud i adeilad gwell.

Yn y man, agorwyd Ysgol Ragbaratoawl Clynnog Fawr gan y Methodistiaid Calfinaidd i baratoi dynion di-gymhwyster ar gyfer mynediad i goleg diwinyddol, ysgol a gaewyd ym 1931. Rhoddwyd enw Ysgol Eben Fardd gan y werin ar y sefydliad hwnnw.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma