Seidins Tyddyn Bengam
Ar ôl i Rheilffordd Sir Gaernarfon agor o Gaernarfon i Afon-wen ym 1865, doedd Rheilffordd Nantlle ond yn rhedeg o'r chwareli o gwmpas Nantlle a Thal-y-sarn cyn belled â'r man lle cyfarfyddai â'r lein fawr, ger gorsaf Tyddyn Bengam. Yn y fan honno, gosodwyd seidins trosglwyddo lle gellid symud y llechi o'r wagenni bach i wagenni'r lein fawr. Mae olion y glanfeydd yn dal i'w canfod o dan y prysgwydd i'r dwyrain o'r hen drac (sef Lôn Eifion) hyd heddiw.