Gwesty'r Grugan Arms

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:19, 13 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Codwyd Gwesty'r Grugan Arms yn Y Groeslon ychydig tua 1880 gan un Thomas Parry, ond ymddengys fod tafarn o ryw fath ar y safle ers o leiaf 1862. Safai ar gornel ar waelod allt y Groeslon rhwng y lôn fawr a'r orsaf a gyferbyn â Thafarn y Llanfair Arms.

Roedd yno ddeg o ystafelloedd i gyd a dwy ystafell wely ar gyfer cwsmeriaid, ynghyd â iard, adeiladau allan a seler oedd yn gallu dal 50 o gasgenni. Roedd Thomas Parry yn ddyn busnes llewyrchus yn y Groeslon ac eisoes wedi codi Gwesty'r Caernarfon Bay yn Ninas Dinlle. Ar ôl codi'r gwesty, fodd bynnag, fe'i gwerthwyd ym 1889 i ddyn o'r enw C.E. Jones o Gaernarfon; y tenantiaid oedd John E. Jones a'i wraig - er i John E. Jones hefyd weithio yn y chwarel.

Nid yw'n sicr pryd gorffennodd yr adeilad weithredu fel tafarn. Erbyn 1900 John Parry a'i wraig oedd yn byw yno. Wedyn prynwyd y lle gan Rowland J. Thomas oedd yn cadw'r post a Siop Ddillad ar y sgwar ar waelod yr allt. Bu'n defnyddio'r lle ar gyfer cadw dillad ac i gael lle i boblwnïo am dipyn. Pan aeth Kate, gwraig Mr Jabez Williams wedyn, i weini yno ym 1911, roedd meinciau a dodrefn y dafarn yn dal yno.Yn ddiweddarach bu'n gartref i'r teulu ac fe newidiwyd yr enw i Rhianfa. Bu yno siop gwerthu papur papuro a phaent am gyfnod byr. Yn y chwedegau fe'i trowyd yn fflatiau cyn ei dynnu i lawr yn y saithdegau er mwyn lledu'r ffordd.[1] Yn ddiweddar gosodwyd mainc fetel goch lle arferai'r Grugan Arms sefyll.

Cyfeiriadau

  1. Hanes y Groeslon, (Caernarfon, 2000), t.64