Caer Arianrhod

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:34, 19 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Caer Arianrhod yn dangos uwchlaw'r môr ar adeg llanw isel iawn

Ynys garegog fechan a ymddengys ar ddistyll trai mawr yn y môr rhwng Dinas Dinlle a Phontllyfni yw Caer Arianrhod. Mae hi'n gorwedd tua tri chwarter milltir i'r môr. Cysylltir hi â phedwaredd gainc y Mabinogi. Yn ôl y chwedl, roedd y ‘Gaer’ hon yn gartref i Arianrhod, ferch Don a mam Lleu Llaw Gyffes. Cyfeirnod grid y lleoliad hwn yw SH431545.


Dolenni allanol