Beuno Sant

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:13, 20 Mehefin 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sant Cymreig oedd Beuno (bu farw c.642). Mae'n fwyaf adnabyddus fel sylfaenydd clas Clynnog Fawr yng Ngwynedd. Bywgraffiad

Mae'r unig fuchedd sydd ar gael yn hwyr, yn dyddio o tua 1350, yn Llyfr Ancr Llanddewi Brefi. Dywedir ei fod yn perthyn i deulu brenhinol Morgannwg, ac iddo gael ei eni ym Mhowys, ar lan Afon Hafren. Cafodd ei addysgu yng Nghaerwent cyn ymsefydlu yn Aberriw. Yn ddiweddarach bu yng Ngwyddelwern a Threffynnon, cyn ymsefydlu yng Nglynnog. Dywedir i'r tir i sefydlu'r clas yng Nghlynnog gael ei roi gan bennaeth o'r enw Gwyddeint, cefnder i frenin Gwynedd, Cadwallon ap Cadfan, oedd yn teyrnasu rhwng tua 620 a 633.

Dywedir fod y santes Gwenffrewi yn nith iddo. Yn ôl y traddodiad, syrthiodd pendefig ieuanc o'r enw Caradog mewn cariad a hi, a phan wrthododd hi ef, torrodd ei phen a chleddyf. Gosododd Beuno ei phen yn ôl ar ei hysgwyddau a'i hadfywio. Eglwysi

Mae'r eglwysi a gysegrwyd i Sant Beuno yn cynnwys Aberffraw a Trefdraeth ar Ynys Môn a Chlynnog, Penmorfa, Carnguwch, Pistyll, a Botwnnog yng Ngwynedd. Ym Mhowys mae Llanycil, Gwyddelwern, Aberriw a Betws Cydewain wedi eu cysegru iddo.

Mae ei ddydd gŵyl ar 21 Ebrill.