Tom Huws

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:49, 20 Mehefin 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Tom Huws ym 1970

Roedd Y Prifardd Tom Huws yn frodor o'r Groeslon.

Bu'n athro mewn sawl ysgol, gan symud i Ysgol Glan Clwyd (Y Rhyl, a Llanelwy wedyn) fel athro Cymraeg cyn ymddeol yn 65 oed ym 1971.[1]

Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1959 am bryddest ar y testun Cadwynau lle ymdrinodd â dirywiad y gymdeithas a'r cyni wedi i'r chwarel leol yn Nyffryn Nantlle gau:

   Rhynllyd gefnau ar y waliau boliog,
   Stelcian, stilio a sgwrs,
   Sgwrsio am waith. Nid oes gwaith, wrth gwrs!
   Torri eu henwau ddydd Llun, a dydd Gwener,
   Loetran o gwmpas Tŷ'r Crydd a'r Lôn Newydd,
   A gwybod na ddychwel fyth hen lawenydd.[2]

Yn genedlaetholwr pybyr, bu'n llafar yn erbyn ymweliad teulu brenhinol Lloegr i'r Eisteddfod y flwyddyn ar ol iddo gael ei goroni.

Am fideo o Tom Huws yn cael ei goroni, cliciwch yma: [[ [1]]].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Wicipedia, [2]; gwybodaeth bersonol
  2. Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1959