Manganîs y Gurn Ddu
Mae olion o gloddiant mwyn Manganîs ar hyd carneddi’r Gurn Ddu, yn ardal Llanaelhaearn. Gelwir un o’r tyllau rhain yn y Seler Ddu neu’r Bwlch Mawr hefyd.
Gellir gweld ar fap yr olion rhain, drwy ddefnyddio cyfeirnod grid SH431471.
Nid oedd y diwydiant hwn mor lwyddiannus a’r diwydiant llechi a oedd yn ffynnu yn yr ardal. Er hyn, gellir gweld fod y carneddi wedi bod o ddiddordeb mawr, gan fod hen olion aneddiadau yno sy’n dyddio i’r oes efydd.
Rhwng 1872 a 1876, roedd y gloddfa manganîs yn cynhyrchu allbwn o 50 tunnell, ac yn cael ei redeg gan John Cowper.
Ffynonellau
The Manganese Mines of North Wales, British Mining No. 14, C.G. Down