Gwilym Owen, Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:18, 19 Mehefin 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganed Gwilym Owen yn 1904 yn Llanaelhaearn, a bu'n byw ym mro'r Eifl am y rhan mwyaf o'i fywyd. Chwaraelwr oedd wrth ei alwedigaeth, a threuliodd bron i hanner canrif yn gweithio yn 'Y Gwaith', sef Chwarel ithfaen Trefor. Bu iddo ymddiddori yn hanes lleol, ac roedd yn gerddor medrus hefyd. Casglodd hanes ei fro, gan gyhoeddi dau lyfryn arloesol :

  • Hanes y Neuadd a Maes Chwarae Trefor (1971)
  • Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl (1972)

Ysgrifennodd lyfryn atgofion Dan Gysgod yr Eifl (1978). Bu Gwilym yn aelod yng Nghapel Gosen (MC) Trefor ac fe fu'n Arweinydd y Gân yno am flynyddoedd lawer. Cyfansoddodd emyn-dôn o'r enw Padstow. Bu 'n aelod o Seindorf Trefor am 35 o flynyddoedd,ac yn arweinydd y Seindorf am gyfnod yn y 1950au a 60au.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma Categori:Cerddorion]]