Gorsaf reilffordd Dinas
Dinas, neu Gyffordd Dinas, oedd y man cyfnewid i deithwyr a nwyddau rhwng y rheilffordd led safonol (y LNWR/LMS) a Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, a redai o Ryd-ddu, gyda changen o'r Bryngwyn ger Rhostryfan, yn bennaf er mwyn cludo llechi a mwynau. Roedd sied nwyddau a seidins cyfnewid, ac roedd giang o ddynion yn gweithio yno'n trosglwyddo llechi o dryciau bach i'r tryciau mawr a fyddai'n cludo'r llechi i Gei Caernarfon neu ddinasoedd Lloegr yn ol y gofyn. Dyma'r 'lŵp' cyntaf ar y llein ar ôl [pasio Caernarfon.
Safai'r orsaf gerllaw Eglwys Llanwnda, er bod gorsaf arall o'r enw LLanwnda tua tri chwarter milltir i'r de o Gyffordd Dinas.
Bu gorsaf Dinas gau ym 1951, ond fe ail=agorwyd hi ar gyfer trenau Rheilffordd Eryri ym 1997.