Gorsaf reilffordd Bryngwyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:02, 11 Hydref 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gorsaf Bryngwyn oedd yr orsaf derfynnol ar gyfer teithwyr ar gangen Rheilffyrdd Trac Cul Gogledd Cymru ("y North Wales Narrow Gauge Railways") a gychwynnodd o'r prif lein yng Nghyffordd Tryfan ac yn rhedeg trwy Rostryfan. Safai ar waelod inclên hir a gludai wagenni llawn o lechi o chwareli o amgylch Moel Tryfan a'r Fron. Daeth cludo teithwyr i ben ar y gangen 31 Rhagfyr 1913.