Griffith Davies

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:34, 25 Ionawr 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd Griffith Davies (1788-1855) yn Nhŷ Croes sydd yn gyferbyn â fferm Hafod Boeth sydd heddiw ar gyrion pentref Y Groeslon a Maestryfan. Fe fynychodd ysgol Sul Bryn'rodyn ac fe gafodd dymor neu ddau o addysg ffurfiol mewn ysgol yn Llanwnda.

Fe wnaeth enw iddo'i hun trwy fynd yn gyfrifydd ac yn actiwari yn Llundain. I raddau helaeth, ac yntau'n dod o gefndir tyddynod a chwareli ar gomin plwyf Landwrog, mi weithiodd yn ddygn yn 1827 i rwystro Ystâd Glynllifon rhag cipio'r tir a amgeuwyd o'r comin a'i droi'n gaeau mawr ar gyfer ffermydd yr ystad. Gan ei fod yn gweithio yn Llundain a llawer o aelodau seneddol dylanwadol yn gleientiaid iddo, roedd mewn sefyllfa i bwyso arnynt i wrthwynebu mesur seneddol a fyddai wedi caniatáu i hynny ddigwydd. Diolch iddo fo felly, fe gafodd y werin leol lonydd i fyw ar eu tyddynod.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma