Eglwys Sant Thomas, Y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:20, 30 Ebrill 2018 gan Twiglet48 (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Eglwys St Thomas

Ysgrifennwyd hanes eglwys St Thomas gan Mrs. M Roberts yn y flwyddyn 1928. Mae'r trawsgrifisd isod wedi ei gopïo gair am air o'r llawysgrifen gwreiddiol.

Eglwys St Thomas

(Hanes 1852 – 1928 gan Mrs M Roberts)

Saif eglwys St Thomas mewn lle dymunol iawn ar ychydig o godiad tir perthynol i fferm o’r enw Cefn Nen yr hon sydd eiddo ystad Glynllifon, ac oddeutu milltir o orsaf y Groeslon. Cafwyd y tir lle y saif yn rhodd gan yr Anrhydeddus Arglwydd Newborough Glynllifon. Dechreuwyd ei hadeiladu yn gynar yng ngwanwyn 1852 ac fe ei gorphenwyd yn mis Awst 1853 ac a’i hagorwyd ar y 10fed o Awst 1853 gan Esgob Bangor felly y mae yn un-ar-bymtheg a thriugain oed mis Awst nesaf. Y mae wedi ei gwneyd o geryg [sic] a chymrwyd, a gosodwyd y gareg Sylfaen gan Thomas John Wyn mab hynaf yr Anrhydeddus Arglwydd Newborough pan nad oedd ond dwy flwydd oed, a defnyddia driwal arian i’r pwrpas. Y mae yn adeilad hirsgwar gyda chlochdy uchel a chloch o bres ac arni y geiriau a ganlyn “Bydd barod i gyfarfod a’th Dduw” ar flwyddyn 1852 ac enw y gwneuthurwyr C.G.Mears, Founders, London. Amgylchir yr eglwys a mynwent yr hon sydd wedi ei chau allan a mur o gerrig a choed yn tyfu or tu fewn ir mur. Y cyntaf yn cael ei gladdu yn y fynwent hon oedd Gwen Williams Caeymryson gweler y garreg fedd ar y llaw aswy ychydig latheni oddiwrth y llidiart ac arni y geiriau a ganlyn: “To the Memory of Gwen Wife of John Williams Caeymryson Who departed this life the 28th of August 1855 Aged 46”. A chan mae hon oedd y gyntaf i gael ei chladdu yn y fynwent hon rhoddwyd y garreg yn rhodd gan Parch Bodwel Lewis, Rheithor, Llandwrog. Mae y fynedfa ir fynwent ar porth eang ir eglwys yn gwynebu y dehau. Y mae iddi ddeg o ffenestri wedi ei gwneuthur o alcan a gwydr a’r ffenestr sydd yn y gangell yn un amryliw gyda darlun o’r bugail da yr hon oedd yn rhoddedig er cof am Thomas John Wyn Glynllifon yr hwn hefyd roddodd lestri y cymmun yn rhodd i’r eglwys nadolig 1856. Y mae iddi eisteddleoedd i tua tri chant ac y mae lle i ddau gant a deugain yn y llawr isaf ac i driugain yn yr esgynlawr. Ar y llaw aswy wedi myned i mewn drwy y drws ceir y bedyddfan a’r cyntaf iw bedyddio yno oedd Margaret Ann Griffiths Lodge Uchaf Glynllifon, yn awr a adwaenir fel Mrs Jones Dulyn View, Penygroes. Y ddwy fam fedydd oedd Mary OBrien Bryndu a Margaret Robinson Penybryn, a chan fod yna ymryson am y bedydd cyntaf bedyddiwyd hi ar foreu Sadwrn tua unarddeg or gloch ar y pumed ar hugain o Awst 1853 gan Mr Pryce Ty Mawr Clynnog yr hwn oedd newydd gael ei ordeinio yn berson, felly dyma y bedydd cyntaf iddo weinyddu, ac ar ol hyn daeth yn Vicer St Thomas yn y flwyddyn 1854 hyd flwyddyn 1869, ac efe oedd Vicer cyntaf St Thomas, ac un or enw William Jones o Llandwrog Isaf wasanaethai yn glochydd. Ar y dde ceir y gangell a’r pwlpud a’r ddau ddarllenfwrdd y rhai a fu ar y dechreu yn un. Yn yr allor ceir bwrdd y cymmun ac arno groes, dwy ganwyllyr, a dwy addurngawg (Flower Vases) o bres y rhai olaf a roddwyd er cof am Robert Peter Hugh Williams, mab y Parch Hugh Williams Vicar presenol St Thomas, rhoddwyd hwy gan ei rieni yn y flwyddyn 1927 a chafwy y groes gan Mr Wyn Glynllifon, a rhoddwyd y ddwy ganwyllyr gan aelodau eglwys St Thomas, hefyd y mae yno ddarllenfwrdd o bres yr hwn oedd roddedig gan Mr a Mrs Evan Jones Bryneidhir, a rhoddwyd y ddau blat casglu gan Mr John Hughes Trigfa Groeslon er cof am ei briod Mrs Jane Hughes yr hon a fu farw yn y flwyddyn 1926, ar plat arian mawr gan aelodau y GFS, a rhoddodd y Parch Hugh Williams, Vicer presenol un or poteli cymmun ar rhai or llieiniau sydd yno ar hyn o bryd, hefyd y mae ynddi ddwy gadair addurnol, ac ar y mur y mae cofeb am y diweddar deulu Pryce’s Tryfan Hall y rhai a fuont haelionus yn yr eglwys hon. Y mae yno ddwy gofeb arall yn yr eglwys un o honynt er cof am ddau o fechgyn a gollwyd yn y rhyfel 1914 – 1918, ac un ir diweddar Mr William Ellis a’i briod ysgolfeistr parchus yn Penfforddelen a warden yn yr eglwys hon am flynyddau maith. Goleuwyd yr eglwys ar y cyntaf a chanwyllau gwer o waith cartref, ond cafwyd yn mhen tua pymtheg mlynedd lampau ar byst trwy roddion caredigion yr eglwys a thua yr un amser cafwyd harmonium y gyntaf yn yr eglwys hon yn rhodd gan Ellen Griffith Trosglwyn, ond cyn hynny arweinwyd y canu gyda thymbal, dyma y cyfnod yr oedd Mr Pryce yn offeiriad yma. Yn olynydd i Mr Pryce daeth y Parch Thomas Laugharne yn Vicer or flwyddyn 1869 hyd y flwyddyn 1894, ac roedd yn fawr ei barch gan bawb[.] claddwyd ef yn y fynwent hon ar y 3ydd o fis Medi yn y flwyddyn 1894, ar clochydd yn y cyfnod hwnnw oedd Griffith Owen, Rhandir ac o flaen hwn yr oedd un o’r enw John Jones, Minffordd ac yn olynydd iddo David Jones Cilgwyn. Ar ol Mr Laugharne death y Parch Thomas Parry yn gurad o Bethesda Arfon am ychydig amser. Yn [niwedd?] y flwyddyn 1894 daeth y Parch Thomas Jones yno yn Vicer, ac yn amser hwn gwnaed yc[hydig?] gyfnewidiad yn y seddau a’r pwlpud ac ychydig bethau eraill, ac yn y flwyddyn [?] fe ymadawodd i ofalaeth Llanaelhaiarn [?] y bu farw yn 1921 ac a gladdwyd yn fynwent St Thomas. Yn y flwyddyn 1904 daeth y parch R Roberts yno yn Vicer a bu yno yn gwasanaethu hyd y flwyddyn 1914 pryd y bu farw ac a gladdwyd yn y fynwent hon a rhoddwyd m[?] er cof ar ei fedd gan aelodau eglwys St Thomas. Yn y flwyddyn 1912 diddoswyd yr eglwys, a rhoddwyd (dead-do) [sic] a chanllaw newydd o dderw [?] yr allor, ac yn yr amser hynnu cafwyd ffenestr newydd, a phaentiwyd yr eglwys, ac yn yr a[mser?] yma cafwyd chwech o lampau yn crogi wr[th?] nen yr eglwys yn rhodd gan Mr Trevor F[?] Coed Helen. Yn 1913 cynhaliwyd cyfarfod chwarterol yr eglwys yma. Yn mis Mai 19[?] daeth y parch Robert Richard Roberts yn Vi[cer] hyd y flwyddyn 1923[?] pryd y bu farw yn [mis] Rhagfyr 1923 ac a gladdwyd yn y fynwent hon. Yn yr haf y flwyddyn 1924 daeth y parch Hugh Williams yma yn Vicer ac [ef?] yw y Vicer presenol. Y ddau warden ar hyn [o] bryd ydynt Mr Evan Jones Brynneidhir a [Mr?] Daniel Jones Glandwr. Yn y flwyddyn 1926 [?] adgyweirio drachefn ar yr eglwys ai phaentio a gwnaed y gloch i ganu y ddwy ochr. Y Sulgwyn 1924 cafwyd nifer o lyfrau emynau yn rhodd gan Mr a Mrs Handel Jones Brynedau. Yn y flwyddyn 1927 cafwyd ‘safe’ yn yr eglwys a chafwyd mattiau[sic] ar hyd y fynedfa gan aelodau yr eglwys, a hefyd lampau. Yn 1928 tacluswyd y fynwent drwy dorri coed a perchenogion y beddau edrych ei bod mewn trefn. Rhoddwyd i oleuo y fynedfa lamp ar bost yn rhodd gan Mr John Roberts Cae Uchaf. Yn y flwyddyn hon adgyweiriwyd y ffordd sydd i fyned at yr eglwys. Y mae yna ystafell gan yr eglwys i gynnal cyfarfodydd bychan ac y mae i gynnal tua chant i eistedd ar gadeiriau pa rai a gafwyd trwy roddion caredigion yr eglwys. Y flwyddyn ddiweddaf cafwyd cyfarfod i blant eglwys St Thomas, ond eleni [1928] y mae yn fwy eang ar cystadleuaethau yn fwy agored rai o honynt ir byd, a chynhelir yr wyl eleni ar nos Fawrth y 12fed o Chwefror yn neuadd Goffa y Groeslon.


Ymgeisydd