Capel Seion (A), Tal-y-sarn
Capel Seion oedd unig gapel y r Annibynwyr yn Nhal-y-sarn, ac erbyn heddiw (2018), hwn yw'r unig gapel o unrhyw enwad sy'n dal yn agored yn y pentref.
Mae gwreiddiau'r achos yn mynd yn ôl ymhell. Dywedir mai Michael Owens, aelod o Gapel Penlan, Pwllheli a chwarelwr yn Chwarel Gloddfa'r Goed oedd sylfaenydd yr achos trwy ei arferion crefyddol a drodd ei gydweithwyr, fesul tipyn, yn ddynion crefyddol eu hagwedd. dechreuodd y synudiad hwn tua 1790, ac er na chafwyd llawer o ddilynwyr, cafwyd pregethu cyson, a thua 1802 cafwyd prydles hir ar hen ffatri ŵlan a'i defnydio fel capel. Ym 1814 odeiniwyd gweinidog, David Griffiths o'r Blowty, Pen Llŷn. Ym 1822, a'r gynulleidfa ar gynnydd, helaethwyd yr hen gapel. Tua 1830 symudpdd David Griffiths i Bethesda, ac fe'i olynwyd gan un a fu'n fyfyriwr yng ngholeg Neuaddlwyd tan hynny, Isaac Harries. Er iddo aros am ryw 4 blynedd, nid oedd o'n gymeradwy oherwydd ei agwedd at fusnes a oedd, meddid, yn cael ei seilio ar dwyll. Y pryd hyn, roedd capeli Tal-y-sarn a Chapel Pisgah yng Ngharmel. Olynydd Mr Harries oedd Owen Thomas, Rhydlydan, Sir Ddinbych, a bu'n weinidog ar gapeli yn Nhal-y-sarn, Pisgah (Carmel) a Phen-y-groes, a fe hefyd oedd yn cynorthwyo efo achos Capel Drws-y-coed (A).
Bu diwygiad yn yr ardal ym 1839, a gafodd effaith ar nifer yr aelodau, ac arhosodd Owen Thomas yn weinidog tan 1846. Am 4 blynedd roedd yr achos heb weinidog ond ym 1850 rhoddwyd galwad gan achosion Tal-y-sarn a Drws-y-coed i David Jones, myfyriwr diwinyddol yng ngholeg hyfforddi Caerfyrddin, a arhosidd am dair blynedd cyn symud i'r de, ac wedyn i America. Ym 1856, penodwyd y Parch. Edward W. JOPnes, ac yn ystod blynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth cynyddodd nifer yr aelodau o 30 i 130 erbyn iddo yntau ymfudo i America, ym 1871. Yn y cyfamser, fodd bynnag, roedd yr achos wedi symud oherwydd ddiffygion yr hen gapel i safle newydd, gan godi'r capel presennol mewn man o'r enw Llechillyfnion oedd yn eiddo i Ystad Coedmadog.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ T. Rees a J. Thomas, Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, Cyf. III (Lerpwl, 1873).