Gored Beuno

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:32, 10 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Gored Beuno yn gasgliad o gerrig yn y môr, sy'n ymddangos ar gyfnodau o drai, tua 400 metr oddi ar y lan ghyferbyn aphentref Clynnog Fawr.

Ystyr cored yw clawdd cerrig i ddal pysgod wrth i'r llanw fynd allan, ac fe'u defnyddid yn aml yn y Canol Oesoedd. Mae sawl enghraifft o hyd i'w gweld yn Afon menai, er enghraifft wrth Ynys Gored Goch ger Pont Britannia. Mae olion coredau i'w gweld yn y môr ger Aberaeron hefyd. Yn aml, fe'u cysylltir â safleoedd credfyddol gan fod pysgod yn rhan bwysig o ddeiet offeiriaid ar ddyddiau ympryd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma