Abermenai
Abermenai yw enw'r culfor lle mae Afon Menai'n ymarllwys i Fae Caernarfon. Dyma fan mwyaf cul yr holl afon, ac yn y gorffennol, bu'n man croesi i Ynys Môn ar gyfer teithwyr o Ben Llŷn. Pan oedd teithio ar draws y tir yn y Canol Oesoedd yn anodd oherwydd diffyg ffyrdd a'r holl fannau gwlyb heb eu traenio - yn arbennig ar dir isel ger y môr, yn aml y ffordd hawsaf oedd ar hyd traethau ar gyfnodau o drai, ac mae traeth gweddol dywodlyd yr holl ffordd o Aberdesach i ben draw penrhyn Belan ar lan Abermenai.
Ceir cyfeiriad at Abermenai ym mhedwaredd cainc y Mabinogi, ac felly mae defnyddioldeb ac arwyddocâd y lle'n ymestyn yn ôl am ganrifoedd lawer ond nad miloedd o flynyddoedd.
Ceir sawl cyfeiriad cynnar at Abermenai. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yma yn 1075 wedi croesi o Ddulyn gyda mintai o filwyr hur o Lychlynwyr i geisio hawlio teyrnas Gwynedd. Yn 1144 glaniodd Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd, yma gyda llynges yr oedd wedi ei llogi gan y Daniaid o ddinas Dulyn.[1] Pan fu farw Gruffudd, fe adawyd elw 'porthladd a fferi Abermenai' i'w weddw Angharad.[2] Ar ôl i goron Lloegr feddiannu gogledd Cymru, mae Abermenai'n ymddangos yng ngyfrifon y brenin, a hynny o 1296 ymlaen, pan oedd y rhent yn £4 y flwyddyn, swm sylweddol iawn yr adeg honno. Mae'n glir hefyd fod swyddogion y goron hefyd yn talu am gostau megis atgyweirio'r cwch fferi.[3]
Mae'r llif trwy gulfor Abermenai'n gallu bod yn beryglus o gyflym a thwyllodrus er bod cyfnod rhwng lannw a llanw pan mae'n fwy diogel i hwylio dros yr aber. Bu llongau masnachol oedd yn hwylio i ac o borthladd Caernarfon yn mynd trwy'r culfor dros y canrifoedd, a pharhaodd yr arfer gyda llongau a gariai olew i ddepo ar gei Doc Fictoria tan ddiwedd y 1980au, ac fe gadwyd y sianel yn glir gan y 'cwch mwd', y stemar Seiont II, nes i hwnnw dorri i lawr. Dechreuodd dywod hel yn yr aber, a dywedir i'r llong olew olaf i geisio hwylio'r ffordd yna grafu gwaelod y môr. Wedi hynny am ychydig, daeth y llongau olew i Gaernarfon ar hyd y Fenai o gyfeiriad Biwmares, nes i'r depo gau.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma