Melin Llanllyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:53, 9 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Melin Llanllyfni yng ngwaelod y pentref bron gyferbyn â'r eglwys. Mae bwthyn o'r enw Y Felin yn dal i sefyll yno, ger Bont Rectory, sef y bont fechan dros nant sy'n llifo o gyfeiriad Rhos-yr-unman i Afon Llyfnwy, a dichon mai adeilad y tu ôl i'r bwthyn oedd y felin ei hun. Y nant hon roddodd y grym i droi'r olwyn, ac nid oes tystiolaeth ar y mapiau Ordnans fod ffrwd felin ar wahân yn gwasanaethu'r felin hon. Melin ŷd ydoedd ac roedd yn dal i gael ei dangos fel melin ar waith ar fap Ordnans dyddoiedig 1914.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma