Ffynnon Ddigwg
Mae Ffynnon Ddigwg ym mhlwyf Clynnog Fawr nid nepell o fferm Pennarth, rhwng Aberdesach a Chlynnog. Mae nifer o hanion anodd eu credu neu goelion gwrach yn perthyn i'r ffynnon hon. Yn ôl llawysgrif yn y LLyfrgell Genedlaethol, honnai un hen ferch bod rhywbeth teyg i orenau wedi arfer tyfu ar waelod y ffynnon, ond nad oedd neb wedi llwyddo i godi un o'r dŵr. Mae Myrddin Fardd yn nodi mai enw amgen ar y ffynnon oedd Ffynnon Gwtig neu Ffynnon Gyttig. Dywedodd fod pinau a wyau yn cael eu cyflwyno yno; fod y dwr yn gallu gwella defaid ar y croen; a bod rhywun wedi honni unwaith iddo weld creaduriaid tebyg i ddraenogod heb ddrain yn y ffynnon.[1].
Ymysg yr ofergoelion eraill yn gysylltiedig â'r ffynnon hon, credid y byddai mellt a tharannau'n cael eu hachosi pe cwympwyd coeden ddraenen wen a dyfai gerllaw. Hen hen ofergoel baganaidd yw hon, sydd yn awgrymu bod Ffynnon Ddigwg wedi bod yn safle o bwysigrwydd crefyddol cyn dyddiau Cristionogaeth.[2]
Stori arall yn gysylltiedig â'r ffynnon oedd un a adroddwyd gan Myrddin Fardd. Credid bod arian wedi eu guddio yn Ffynnon Ddigwg, ond nid oedd ond un math ar berson a fyddai'n gallu dod o hyd i'r arian, sef geneth wallt coch a oedd yn hel defaid ar y pryd.[3]
Mae stori ar gael hefyd sydd yn esbonio enw'r fffynnon. Roedd gweithiwr o Ynys Môn yn gweithio yn llys Brenin Ynyr, Brenin Gwent, ac fe sichaodd fod y Brenin yn meddwl cymaint amdano fel y byddai'n rhoi ei ferch, Digwg, iddo'n wraig. Ar eu ffordd adref, roedd y gŵr yn poeni y byddai ei wraig y dywysoges yn darganfod pa mor ddistadl oedd ei statws cymdeithasol. Arhosent ger Bennarth i dreulio'r nos a thra oedd y ferch yn cysgu, torrodd ei gŵr ei phen hi i ffwrdd. Y foment honno, llifodd ffynnon o'r ddaear yn y man lle cyffyrddodd ei gwaed hi'r ddaear. Mae Francis Jones yn nodi bod hon yn stori gyffredin lle mae'r elfennau arhosol yw: merch neu wyryf sy'n ceisio ffoi oddi wrth un a fyddai'n gariad iddi ac sydd yn torri ei phen i ffwrdd - a ffynnon yn codi lle gwanetrhpwyd yr anfadwaith.[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma