Ffynnon Rhedyw

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:17, 1 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Ffynnon Rhedyw ar lan Afon Llyfnwy, ryw chwarter milltir i'r Gogledd-orllewin o Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni. Erbyn hyn, nid oes fawr i'w weld yno, er i Francis Jones nodi fod slabiau cerrig gerllaw yn awgrymu y bu iddi gael ei gwarchod gan waliau. Defnyddiwyd y dŵr ohoni ar gyfer bedyddiadau yn Eglwys Llanllyfni. Ni nodir unrhyw rinweddau meddygol nag ofergoelion yn perthyn i'r ffynnon, ac felly gellir tybio mai ffynnon at bwrpas yfed y dŵr ohoni mae hi wedi bod erioed, er dichon iddi gael ei chyfrif yn ffynnon sanctaidd.[1]

Fe ymddengys fod adeilad, neu waliau a grisiau at y dŵr, wedi cael eu codi yn y gorffennol, ac roedd peth dystiolaeth ar y safele mor ddiweddar â 30 mlynedd yn ôl.[2] Pan ymwelodd archwilwyr y Comisiwn Henebion y safle ychydig cyn 1960, fe welsant lloc wedi'i amgáu, tua 10' wrth 8', gyda dwy droedfedd o ddyfnder o ddŵr ynddo. Roedd grisiau ar hyd dwy ochr, a rhywfaint o dystiolaeth o adeilad.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Francis Jones, The Holy Wells of Wales (Caerdydd, 1954), .152
  2. Gwefan Well Hopper, [1], adalwyd 01.04.2018. Mae lluniau lliw diweddar o'r safle ar y wefan hon.
  3. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.II, (Llundain, 1960), t.212.