W. Gilbert Williams
Ysgolfeistr a hanesydd lleol oedd W. Gilbert Williams (20 Ionawr 1874- 10 Hydref 1966).
Fe'i ganed yn Nhŷ’r Capel, Rhostryfan, Llanwnda. Roedd yn fab i John Williams, chwarelwr a Catherine Jones. Buodd yn gweithio yn Chwarel Cilgwyn ac wedyn aeth ymlaen i fod yn athro, ac wedyn i’r Coleg Normal ym Mangor rhwng 1892-1894. Roedd yn Ysgolfeistr yn ysgol Felinwnda, Llanwnda ac wedyn yn Rhostryfan rhwng 1918 a 1934. Buodd hefyd yn ymwneud llawer â hanes lleol, a derbyniodd gradd M.A. er anrhydedd oddi wrth Prifysgol Cymru am ei gyfraniad i hanes Cymru.