Y Brodyr Francis

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:29, 16 Mawrth 2018 gan Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarelwyr a ddaeth yn gantorion poblogaidd oedd Griffith ac Owen Francis (Y Brodyr Francis).

Ganwyd y ddau yng Nghwm Pennant, yn blant i William a Mary Francis, Bron-y-Wern. Mudodd y teulu oddi yno i'r Clogwyn Brwnt,Drws-y-coed, yna i'r Gelliffrydiau ac wedyn i bentref Nantlle. Roedd y ddau frawd yn ennill eu bywoliaeth ar y dechrau trwy weithio yn y chwarel. Daethant yn gantorion o fri a buont yn canu ar hyd a lled y wlad yn y 1920au a'r 1930au. Canu penillion oedd eu harbenigrwydd a chymerasant ran yn y cyngerdd Cymraeg cyntaf i'w ddarlledu ar y radio - o Ddulyn ym Mawrth 1927.

Yn &ocirc:l Dr Aled Lloyd Davies mae lle i gredu mai hwy oedd yr enghraifft gynharaf o ganu penillion deulais yng Nghymru. Roedd Griffith (1876-1939) yn fardd, a chyhoeddwyd Telyn Eryri gan Hughes a'i Fab yn 1932, sef cyfres o ganeuon am fywyd caled chwarelwyr a thyddynwyr eu hardal. Owen (1879-1939)oedd y cerddor a gyfansoddai'r alawon. Eu cyfeilydd ffyddlon oedd Robert Owen, Drws-y-coed. Cyhoeddwyd llawer o waith y ddau frawd yn Y Genedl Gymreig. Bu'r ddau farw yn 1939; Owen ar 6ed Ebrill 1939, a Griffith ar 13 Mehefin 1939.

Cyfeiriadau