Ffynnon Wen, Maestryfan
Mae Ffynnon Wen ar ochr y lôn o Gapel y Bryn i gyfeiriad Tryfan Mawr a Rhos-isaf. Cronfa ddŵr ydyw bellach, wedi ei hadeiladu'n gadarn. Yn wreiddiol, beth bynnag, tynnwyd dŵr o Afon Wen gerllaw, a gosodwyd pibellau dŵr i gyflenwi cannoedd o dai mewn cymunedau ar lethrau Moel Tryfan ac mor bell â Dinas Dinlle.[1]
Mae cynlluniau wedi bod ar y gweill ers y 1990au i boteli dŵr Ffynnon Wen, a ffurfiwyd cwmni Ffynhonnau Ffynnon Wen. [2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma