Tylwyth Teg Drws-y-coed

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:27, 25 Chwefror 2018 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwedl sy'n perthyn i ardal Drws y Coed yw'r stori am Dylwyth Teg Drws y Coed.

Yn debyg i arddull a steil chwedlau eraill o'r ardal yma, mae'r stori yn seiliedig ar berthynas merch a gŵr ifanc.

Prif Stori

Yn ôl fersiwn y Parch W. R. Ambrose, roedd gwr ifanc yn byw yn un o ffermydd Drws y Coed, ac roedd wedi digwydd gwrando ar noson lawen a gynhaliwyd gan lwyth o Dylwyth Teg ger ei gartref. Roedd wedi disgyn mewn cariad ac un o'r merched, ac wedi ei dwyn oddi yno a mynnu ei bod yn ei briodi. Ar ôl ei chloi yn ei gartref, dywedodd y ferch y buasai yn ei wasanaethu fel morwyn ac yn ei briodi os byddai'n gallu dyfalu ei henw'n gywir. Methu a dyfalu a wnaeth y gŵr am hir amser, nes iddo ddigwydd clywed llwyth o dylwyth teg yn siarad un diwrnod - a digwydd clywed un ohonynt yn hiraethu am ei chwaer, sef 'Penelope'. Ar ôl rhuthro adref, dyma'r gŵr yn cyhoeddi i'w forwyn ei fod yn gwybod ei henw, ac yn unol â'i haddewid bu i'r ddau briodi. Roedd un amod bwysig i'r briodas - os byddai'r gŵr yn taro Penelope gyda haearn, roedd hi'n rhydd i fynd yn ôl at ei llwyth yng Nghoedwig Drws y Coed.

Roedd y ddau wedi priodi am flynyddoedd ac wedi magu dau o blant, cyn i'w stori ddod i ben. Ar ôl dod ag ebol newydd adref o Ffair Gaernarfon, roedd y gŵr yn cael trafferth enfawr i osod pedol arno. Yn gweld y drafferth o bell, dyma Penelope yn mynd ato i geisio ei gynorthwyo ond heb weld ei wraig ac yn anghofus o'r amod a osodwyd blynyddoedd yn ôl - dyma'r gŵr yn taflu'r bedol yn ei dymer gan daro ei wraig. Mewn eiliad, yr oedd wedi diflannu o'i olwg ac wedi mynd yn ol at ei phobl.

Ffynhonnell

Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872) tt. 52-53