Dinlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:09, 23 Chwefror 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Dinlle oedd enw'r drefgordd (neu raniad daearyddol gweinyddol) a gynhwysai rhannau helaeth o blwyfi Llandwrog a Llanwnda. Hyd at ddiwedd y 1600au roedd yn arferol i ddogfennau gyfeirio at 'Dinlle' yn hytrach nag enw'r plwyf.[1]

Rhestrwyd eiddo, tenantiaid a'r rhenti neu'r nwyddau a gwasanaethau y disgwylid iddynt gyflwyno i'r Tywysog neu arglwydd y cwmwd mewn dogfen a luniwyd ym 1352 ac a elwir bellach yn Record of Carnarvon. Mae copi o fersiwn brintiedig y ddogfen hon i'w chael yn Archifdy Caernarfon. ERbyn 1352, Brenin Lloegr (neu ei fab hynaf, Tywysog Cymru) oedd yn derbyn y rhenti a'r rhoddion hyn, ond roedd y ddaliadaeth o dir yn dal i gydymffurfio a'r hen drefn o "wely" a rannwyd rhwng perthnasau. [2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Welsh Administrative and Territorial Units, Melville Richards (University of Wales Press) 1969
  2. Record of Carnarvon, tt.22-4.