Sant John Jones
Ganwyd y Sant John Jones yng Nghlynnog Fawr yn ystod y flwyddyn 1530. Roedd ei rieni yn Gatholigion reciwstanaidd, a buont yn Gatholigion teyrngar trwy gydol ac er gwaethaf y Diwygiad Protestannaidd. Yn ystod ei ieuenctid, fe gredir iddo addoli yn Eglwys Sant Beuno yng Nghlynnog Fawr cyn ymuno â Mynachlog Ffransisgaidd yng Ngreenwich. Bod yn ‘Gatholig’ yng ngwir ystyr y gair oedd pwrpas mawr ei fywyd.