Morafiaid Drws-y-coed

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:07, 3 Chwefror 2018 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Teulu a oedd yn pregethu ac yn dilyn athrawiaeth y Brodyr Morafaidd yn Nrws-y-Coed oedd Morafiaid Drws-y-Coed.

Wrth sôn am y teulu hwn, cyfeiriwn at William ac Alice Griffith a oedd yn ffermio yn Nrws y Coed yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ganwyd iddynt wyth o blant, a aeth ymlaen i astudio'r athrawiaeth newydd hwn a lledaenu ei neges. Yn ôl R. T. Jenkins, roedd y teulu yn derbyn pregethwyr o wahanol enwadau ar eu tir yn aml, ac yn croesawu nifer i'w cartref.

Adeiladodd William Griffith addoldy ar ei dir, ac yno y credir iddo ef a'i deulu wrando ar bregethwr dieithr yn sôn am fath wahanol o Brotestaniaeth, sef dysgiadau'r Brodyr Morafaidd. Nid oedd y math yma o beth yn gwbl annhebygol, yn ôl Jenkins - ond mae'n bwysig nodi cyfraniad y teulu yma at y ffydd. Aeth rhai o'u plant ymlaen i astudio'r enwad ymhellach, a chyhoeddodd un o'u merched gofiant yn nodi ymdrech ei mam, Alice Griffith yn sefydlu'r enwad mewn rhan anghysbell o Ddyffryn Nantlle.

Ffynhonnell

Jenkins, R. T. The Moravian Brethren in North Wales (Y Cymmrodor, Cyf. 45, 1938)

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma