Chwarel Pen-y-bryn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:53, 3 Chwefror 2018 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi oedd chwarel Pen-y-bryn, rhwng Cilgwyn, Dorothea a Nantlle.

Mae'r chwarel hon yn cael ei hystyried fel un o'r chwareli hynaf yn yr ardal, gan ei bod wedi ei hagor yn y 1770au. Yn y safle yma mae nifer o dyllau cloddio sydd wedi eu henwi ar ôl y criwiau bychain oedd yn gweithio ynddynt. Dyma 'rai o'r enwau: Cae Cilgwyn, Cloddfa Dafydd a Twll Ismaeliaid. Roedd inclein i lawr at Reilffordd Nantlle yn rhan o'r chwarel hon hefyd.

Prynwyd y chwarel hon yn 1836 gan gwmni Kennaway & Co., gan gyfuno Pen-y-bryn a Moel Tryfan (o dan y 'run arweinyddiaeth) gyda Cloddfa'r Lon a Thwll Balast. Roedd y rhwydwaith yma o'r chwareli bychain yn llwyddiannus iawn rhwng y 1840au a'r 1880au. Erbyn 1882, roeddynt yn cyflogi oddeutu 240 o ddynion ac yn cyhynrchu 5,000 tunnell yn flynyddol. Yn y cyfnod yma roeddynt yn defnyddio pedwar twll, inclein a dwy olwyn ddŵr a weithiwyd gyda stem, a hefyd wedi gosod tramffordd fewnol.

Cafodd y chwarel ei chau 1887, ac yn ei ail-agor yn 1892 ar ôl i gwmni Dorothea ei phrynu. Roedd y chwarel wedi cau erbyn 1950 yn dilyn cwymp mawr yn y diwydiant.

Ffynhonnell

Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma