George Twisleton

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:00, 20 Ionawr 2018 gan Ffrind Eban (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Swyddog ym myddin y senedd oedd George Twistleon ( (1618 – 12 Mai 1667)).

Fe'i ganed yn Barley Hall, Sir Efrog yn fab i John Twistleton. Gwasanaethodd o dan y Cadfridog Mytton, a cynorthwyodd yng ngwarchae ac ennill Castell Dinbych. Roedd yn llywydd ar y Castell yn 1647. Priododd â Mari Glyn, merch William Glyn, Y Lleuar a disgynnydd i William Glynn y Sarsiant. Bu'n amlwg mewn sawl ymgyrch yng Ngwynedd yn erbyn lluoedd y brenin Siarl ac ef oedd yn arwain milwyr y Senedd yn yr ymladdfa ar y Dalar Hir ger Llandegai ar 5 Mehefin 1648. Ei wrthwynebydd yn y frwydr oedd y brenhinwr Syr John Owen o'r Clenennau yn Eifionydd. Lladdwyd nifer ar faes y frwydr a chlwyfwyd John Owen yn ddrwg a'i ddal yn garcharor. Daeth Twistleton yn aelod o’r Uchel Lys, a gwnaed ef yn aelod seneddol dros Ynys Môn yn Senedd 1654, 1656 a 1659. Ar ól yr Adferiad ymsefydlodd yn y Lleuar ac nid ymddengys iddo gael ei erlid o gwbl er ei deyrngarwch i achos y Senedd. Bu farw ar 12 Mai 1667. Claddwyd ef yn eglwys Clynnog, lle gwelir ei fedd hyd heddiw.