Tafarn y Wellington

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:04, 5 Rhagfyr 2025 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yng Nghyfarwyddiadaur Masnach Slater dyddedig 1868 rhestrir tafarn yn Llanllyfni o'r enw y Wellington, gyda Thomas Owen yn dafarnwr yno. Dyma'r dyn a oedd yn dafarnwr ym 1861 yn nhafarn y Cwari a'r dafarn honno'n sefyll gerllaw rhes o dai o'r enw Wellington Terrace. Nid oes sôn yng nghyfrifiadau 1861 na 1871 am Dafarn y Wellington, ond roedd Thomas Owen yn byw yn rhif 1 Rhes Wellington ym 1871, ac yntau'n 89 oed. Yn nes ymlaen yn y ganrif, ceir sôn am Wellington House fel siop yn y pentref. Hyd yma ni chafwyd cyfeiriadau eraill at y Wellington fel tafarn. Tybed ai ceisio rhedeg tafarn am ychydig wedi iddo ymddeol o'r Cwari oedd Thomas Owen, a ddisgrifir ym 1871 fel crydd.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni 1861-71