David Pierce Williams
Roedd yr Henadur David Pierce Williams (1843-1915), gŵr o Waunfawr yn wreiddiol yn fasnachwr llechi, cadeirydd Pwyllgor Addysg y sir ac ynad heddwch, a symudodd gyda'i wraig i fyw yn Fron Dinas, Bontnewydd ym 1908. Am flynyddoedd bu'n byw yn Dolafon, Llanberis, ac yn y fan honno fe'i etholwyd fel aelod cyntaf Cyngor Sir Gaernarfon dros y pentref. Wedi sefydlu'r Cyngor, fe'i etholwyd yn gadeirydd cyntaf y Cyngor gan y cynghorwyr. Bu hefyd yn gadeirydd ar Bwyllgor Addysg y Sir. Dichon oherwydd ei diddordeb mewn addysg, fe'i apwyntiwyd i Lys Coleg Prifysgol Bangor a hefyd yn uno lywodraethwyr Coleg Hyfforddi Athrawon Gogledd Cymru.[1] Fe'i godwyd yn ynad heddwch ym 1886, ac ym 1910 cafodd y swydd o Uchel Siryf y Sir - hynny tra oedd yn byw yn Fron Dinas.[2]
Roedd wedi llwyddo yn y busnes llechi, er iddo ddioddef colli mawr pan suddwyd y llong yr oedd o'n brif berchennog arno, sef y Glan Padarn, llong o Gaernarfon a aeth i ddifancoll wedi iddi hwylio o Rangoon ym 1889.[3]
YN wleidyddol, roedd yn rhyddfrydwr, ac yn gadeirydd Cymdeithas Rhydfrydwyr Gogledd Sir Gaernarfon,m 1885-6. Ym 1906, pan benodwyd Bryn Roberts, A.S. yn farnwr, fe ystyriwyd D.P. Williams fel ymgeisydd posibl i'w ddilyn yn yr is-etholiad.[4]
Symudodd y teulu i Gorfwysfa, Caernarfon, o Lanberis rhywbryd tua diwedd y ganrif ond fe arhosodd fel henadur y Cyngor Sir; ac ym 1908 symudodd gyda'i wraig i Fron Dinas, er iddi hi farw y flwyddyn ganlynol. Roedd hi'n ferch i'r Hyubarch R. Roberts, Ysgoldy, ac yn chwaer i Mr R.B. Ellis, Y.H. a oedd yn byw ar draws y cae o Fron Dinad ym Mronant. Roedd y ddau yn weithgar iawn yn lleol, yn cefnogi'r ysgol, ac yn mynychu [[Capel Glan-rhyd (MC) [Llanwnda]].