Tafarn y Boar's Head

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:56, 28 Hydref 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tafarn ym mhentref Pontlyfni ger pont dros Afon Llyfni oedd Tafarn y Boar's Head ar ochr y briffordd o Gaernarfon i Bwllheli. Roedd yn sefyll gyferbyn â'r siop hen bethau bresennol, ac (yn fwy heriol efallai!) gyferbyn â chapel Bedyddwyr y pentref.

Nid yw'n sicr pryd yr agorwyd y dafarn. Mae adeilad yn cael ei ddangos ar y safle ar fap degwm 1841. Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 ceir sôn am dafarn o'r enw'r "Pig's Head, Clynnog", gyda dyn o'r enw Robert Williams yn dafarnwr - a dichon mai cyfeirio at y Boar's Head oedd yr adroddiad, gan nad yw'r enw hwnnw i'w weld yno.[1] Fe nodir enw cywir y dafarn ar olygiad cyntaf y map Ordnans, 1888.

Caewyd y dafarn, mae'n debyg, ym 1916 wedi i'r ynadon yn Llys Trwyddedu Gwyrfai wrthod adnewyddu'r drwydded.[2] Defnyddid yr adeilad am flynyddoedd fel swyddfa bost Pontlyfni, ond mae'r adeilad bellach wedi ei ddymchwel.

Cyfeiriadau

  1. Caernarvon and Denbigh Herald, 2.9.1865, t.3
  2. Llangollen Advertiser, 10.3.1916, t.2