Tafarn Sign Horse
Safai dafarn o'r enw Sign Horse yn ardal Treddafydd o bentref Pen-y-groes tua chanol y 19g. Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai Elizabeth Griffiths oedd tafarnwraig yr Horse.[1] Un cyfeiriad arall sydd wedi dod i'r golwg yw hynny yn atgofion Owen Owen, lle nodir bod "Sign Horse" wedi ei godi tua 1835 yn Nhreddafydd gan Evan Williams.[2] Ystyr yr enw, mae'n debyg, yw'r ffaith fod arwydd gyda llun o geffyl yn dynodi'r dafarn gan ei bod ynghanol rhes o dai.