Tafarn y Machine

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:25, 29 Hydref 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Tafarn y Machine yn dafarn a gedwid gan chwarelwr o'r enw Griffith Owen, chwarelwr 35 oed ym 1851, a'r wraig Margaret, 39 oed - y ddau'n lleol, Griffith o blwyf Llandwrog a Margaret o blwyf Llanwnda. Safai'r dafarn yn ardal Coedmadog o bentref Tal-y-sarn, a dichon ei bod yn diwallu anghenion rhai o'r chwarelwyr lleol am gwrw ar ddiwedd sifft.[1]

Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai John Roberts oedd y tafarnwr.[2]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf LLanllyfni 1851
  2. Caernarvon and Denbigh Herald, 2.9.1865, t.3