William Morgan Williams (Fferyllfardd)
Ar y gweill
Roedd Dr William Morgan Williams (1832[[1877) a adwaenid wrth yr enw barddol "Fferyllfardd" yn feddyg ac yn fardd lled enwog yn ei ddydd.
Fe'i anwyd ym Mhentre-poeth, Pwllheli ar y 3ydd o Fehefin, 1832, yn fab i William Williams, (Gwilym Heli), oedd yn grydd, a oedd ei hun yn dipyn o fardd gwlad. Ac yntau'n fachgennifanc, symudodd y teulu i gyffiniau'r Groeslon]]
Dangosodd William Morgan diddordeb mawr mewn barddoniaeth er yn ifanc a chyfansoddodd nifer o gerddi cynganeddol a rhydd yn ei arddegau.
Wedi derbyn addysg elfennol yn Ysgol Botwnnog aeth yn brentis i siop fferyllydd William Parry Williams, Bridge Street, Caernarfon[1]
Hyfforddiant a gwaith meddygol
Wedi gorffen ei brentisiaeth aeth i weithio fel cynorthwydd a disgybl ym meddygfa Dr Watkin Roberts yng Nghaernarfon cyn mynd ymlaen i ysbyty hyfforddi yng Nglasgow gan raddio yn LRCP (trwydded Coleg y Ffisigwyr) ac MRCS (Aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon) ym Mhrifysgol Caeredin. Wedi gorffen ei hyfforddiant ymsefydlodd fel meddyg yn Llansanffraid Glan Conwy yn yr hen Sir Ddinbych lle y bu'n gwasanaethu hyd weddill ei oes.[2]
- ↑ Carnarvon Traders CHEMISTS & DRUGGISTS (APOTHERCARIES)Nodyn:Dolen marw; adalwyd 18 Chwefror 2014
- ↑ "Ymweliad a Llandudno. Adgofion Dyddorol", Y Werin, 7 Mawrth 1896; adalwyd 18 Chwefror 2014
- ↑ Papur Pawb, 24.11.1894, t.4