RAF Llandwrog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:16, 29 Medi 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd RAF Llandwrog yn enw sefydliad y Llu Awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan adeiladwyd maes awyr ar ran o Forfa Dinlle. Diben y sefydliad oedd hyfforddi peilotiaid yn hytrach na chartrefu awyrennau bomio neu ymladdol. Fe'i sefydlwyd ym 1941 a bu'n cael ei defnyddio hyd 1955 pan adawodd y Llu Awyr yr ardal.

Yr awyrennau a ddefnyddid yno'n bennaf oedd fersiynau hyfforddi yr Armstrong Whitworth Whitley a'r Avro Anson, a bu nifer ohonynt mewn damweiniau naill ai wrth lanio neu ar y mynyddoedd cyfagos, gyda nifer yn cael eu ladd. Oherwydd hyn, ac yn wyneb peth difaterwch gan uwch-swyddogion, sefydlodd y Liwtenant Hedfan George Graham uned achub mynydd a dyfodd i fod yn wasanaeth cenedlaethol wedi idi brofi ei gwerth.

Ar gyfer hyfforddi peilotiaid awyrennau bomio, codwyd adeilad hyfforddi arbenigol, sydd yn sefyll hyd heddiw (ond heb do) - sef yr adeilad tair adran o waith brics ar draws y ffordd i'r amgueddfa awyr. Tafluniwyd lluniau a dynnwyd o'r awyr o'r to ar y llawr, ac atgynhyrchiad o offer gollwng bomiau ar oriel uwchben.

Roedd y sefydliad yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau presennol Maes Awyr Caernarfon a sefydlwyd ar safle'r maes awyr milwrol, a cheir o hyd olion sylweddol yn y wlad o gwmpas. Ar ôl i awyren Almeinig ymosod yn annisgwyl ar y safle fis Ionawr 1942, gosodwyd safleoedd ar gyfer magnelau gwrth-awyren, a sefydlwyd maes hyfforddi mawr saethu awyrennau wrth ymyl y traeth i gyfeiriad Caer Belan. Rhag ofn bod ymosodiad ar y maes awyr yn digwydd o'r môr, gosodwyd maes ffrwydron daear yn y twyni tywod. Paentiwyd y lleiniau glanio a'r adeiladau mewn patrwm cuddliw er mwyn dyrysu unrhyw beilotiaid y gelyn.

Lleolwyd barics a chantîn y safle'n ddigon bell o'r maes awyr ei hun er diogelwch, ac fe erys y rhan fwyaf o'r adeiladau hyn ger Chatham, llawer ohonynt yn dal i gael eu defnyddio. Adeiladwyd ffordd newydd ar draws caeau'r morfa a chodwyd pont dros Afon Carrog er mwyn cysylltu'r maes awyr a'r adeiladau hyn. Yr oedd set arall o adeiladau lle mae Gwersyllfa Tŵr Gwyn heddiw; Mae'r tŵr yn rhan o'r hen adeiladau. Ar draws y ffordd i farics Chatham yr oedd safle arall, lle mae stiwdio Cwmni Sain heddiw. Yno yr oedd barics merched y WAAF (Llu Awyr Cynorthwyol Merched) ac ysbyty'r sefydliad.

Wedi i'r rhyfel ddod i ben, cafwyd defnydd newydd i'r maes awyr, a hynny fel storfa bomiau y cemegyn marwol Tabun a ganfyddwyd ymysg arfau'r Almaen. Cyrchwyd 71,000 o'r bomiau hyn i RAF Llandwrog, lle y'u cadwyd nes eu cludo o lanfa a adeiladwyd ger Caer Belan i ddarn dwfn o'r môr oddi ar yr Alban a'u boddi yno. Wedi gorffen y gwaith hwnnw, a ddaeth i ben ym 1955, fe gaewyd yr orsaf yn llwyr.[1]

Cyfeiriadau

  1. Cafwyd y manylion uchod o daflen Map Hanes RAF Llandwrog, 1941-1955 a gyhoeddwyd gan Fenter Fachwen.