Thomas Jones (Eos Beuno)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:39, 26 Medi 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Thomas Jones, a ddefnyddai'r ffugenw Eos Beuno, yn hanu o blwyf Llanwnda. Roedd yn adnabyddus fel unawdydd, arweinydd cyngherddau ac adroddwr. Yn ddyn ifanc, roedd yn wehydd wrth ei waith bob dydd, mae'n debyg iddo weithio yn Ffatri wlân Bontnewydd gerllaw ei dŷ, sef Lodj Plas-y-bryn ym 1881. Roedd yn 31 ar y pryd, a'i wraig Elizabeth yn 28. Roedd ganddynt ferch fach, Hanah, 10 mis oed.[1]

Erbyn 1891, roedd wedi newid ei alwedigaeth, gan iddo gael ei ddisgrifio fel delkiwr mewn te a groser. Roedd yn dal i fyw yn y Lodj, ac erbyn hynny roedd tri mab gan Thomas ac Elizabeth. ERbyn 1911, roedd wedi mabwysiadu'r enw canol Beuno, ac yn byw yn 2 Rhes Libanus, [[Y Bontnewydd], gerllaw y Lodj lle bu'n gartref i'r teulu.[2] Roedd yn dal i weithio fel gwerthwr te. Ychydig flynyddoedd ynghynt bu'n wael iawn, a chodwyd swm sylweddol iddo mewn cyngerdd yng Nghapel Libanus.

Cyfeiriadasu

  1. Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1881
  2. Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1891, 1911