Bryn Crach
Bryn Crach oedd hen enw'r tŷ yn Llanwnda sydd heddiw â'r enw Y Bryn, ond am gyfnod o gwmpas 1900 fe gafodd ei alw'n "Fern Villa" - dichon mai ar ôl cael ei ail-adeiladu oedd hynny. Mae rhestr bennu'r degwm, dyddiedig 1839, yn galw'r cae gerllaw yn "Bryn Corach", a dyna efallai esboniad ar yr enw.[1]
Gweler yr erthygl ar Y Bryn am hanes y sawl a oedd yn byw yno dros y blynyddoedd.