Tan-y-cefn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:42, 28 Awst 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Tan-y-cefn yn rhes o dai bychain ym mhentref Llanwnda. Yn wir, dyna oedd enw'r dreflan a godwyd lle croesai hen drac Rheilffordd Nantlle y lôn fawr o Gaernarfon i Bwllheli. Roedd arhosfan ar y rheilffordd honno gerllaw, a elwid yn Pwllheli Road, enw a newidwyd i "Llanwnda" gan olynydd Rheilffordd Nantlle, sef Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin (LNWR) - er bod Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda ger yr orsaf nesaf, Gorsaf reilffordd Dinas. Tyfodd pentrefan ehangach o gwmpas yr orsaf, ac yn fuan daeth yr enw Llanwnda'n fwy cyfarwydd fel enw'r casgliad o dai. Bellach, mae "Tan-cefn" yn enw ar y rhes o dai gwreiddiol yn unig.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol, a chyfeiriadau yn Y Goleuad, 20.8.1872, t.7