Melin Pant-glas
Safai Melin Pant-glas, a falai rawn, ychydig i'r dwyrain o bentref Pant-glas, erbyn heddiw, ger safle'r rhes o dai cyngor. Safai ar lan nant sy'n llifo i Afon Dwyfach ger Pont Ynyspwntan. Roedd llyn melin yno i gryfhau llif y dŵr.
Mae hi'n cael ei nodi ar y map degwm, 1840, pan oedd Emmanuel Griffiths yn felinydd yno. Owen Jones Ellis Nanney oedd y perchennog.[1] Ym 1865, John Williams, tenant fferm Ffridd y Clogwyn, oedd yn cadw'r felin.[2]
Roedd map Ordnans 1888 yn dangos y felin, ac felly mae'n dyddio'n ôl i'r 19g o leiaf. Erbyn map a dirfesurwyd ym 1913, nodir fod y felin wedi cau.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma