Marged Uch Ifan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:33, 14 Mawrth 2023 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Marged Uch Ifan, neu Margaret ferch Evan, ac a elwid hefyd yn Peggy Evans, yn gymeriad unigryw a oedd yn byw yn Nhelyrnia, Nantlle.

Yn ei chyfnod, roedd nifer yn canu cerddi amdani ac yn adrodd hanesion yn ymwneud â hi ar draws Cymru. Yn ôl y Parch. W. R. Ambrose[1], roedd hi’n fedrus iawn gyda'i dwylo ac yn medru adrodd a chanu alawon Cymreig a diddanu llawer o’i hymwelwyr. Roedd y teithiwr Thomas Pennant wedi mynd i’r Telyrniau i’w gweld, ond cafodd ei siomi gan nad oedd hi gartref y tro hwnnw. Gwnaeth enw iddi ei hun fel cymeriad yn yr ardal ac, ar ei marwolaeth ym 1788, cofnodwyd y pennill isod ar ei charreg fedd;

Here lies Peggy Evans who saw ninety-two,

Could wrestle, row, fiddle and hunt and fox too

Could ring a sweet peal, as the neighbourhood tells

That would charm your two ears – had there been any bells!

Enjoyed rosy health, in a lodging of straw,

Commanded the saw-pit, and wielded the saw,

And though shes departed where you cannot find her

I know she has left a few sisters behind her.”

Ni ddylid cymysgu'r Marged Uch Ifan hon (marw 1788) gyda dynes arall a fu farw bron i ganrif ynghynt, sef Margaret ach Evan, Tal-y-mignedd Uchaf, nain Angharad James, a fu farw ym 1690.[2]

Cyfeiriadau

  1. W.R. Ambrose, Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872).
  2. LlGC, Dogfennau Profiant Bangor, B1690-72