Glynn Bodvel Lewis

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:39, 5 Mehefin 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Gwynn Bodvel Lewis (1788-1832), Mount Hazel, Llandwrog yn offeiriad ac yn fardd. Roedd yn unig fab i Thomas Lewis, Casglwr Tollau Caernarfon, ac yn or-ŵyr i un Mary Bodvel, ar ochr ei fam Mary Hughes. Bu farw ym 1832, gan adael ei eiddo i'w ferch, Mary Bodvel Lewis a briododd y Parch David Hanmer Griffith, ficer Tregatwg, Castell-nedd ym 1836.[1]

Roedd Eben Fardd yn ei gyfrif yn fardd o bwys, a nododd ei fod yn un o feirniaid Eisteddfod fawr Caernarfon, 1821. Clywodd Eben G.B. Lewis yn darllen peth o'i waith, sef cân o fawl i Arfon, a oedd wedi cael ei ysbrydoli gan folawd i Eifionydd gan Eben Fardd. Roedd hyn yn digwydd tua 1828. Arferai G.B. Lewis ysgrifennu ei waith barddol mewn llyfr mawr gyda chlo arno - ond ni chafodd Eben caniatâd ganddo wneud copi.[2]

Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.176; Y Gwladgarwr, Cyf.IV, rhif 48 (Rhagfyr 1836), t.338
  2. Eben Fardd, llythyr yn Y Brython, Mehefin 1860, t.235