Hywel Gethin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:25, 4 Mehefin 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Hywel Gethin (fl. 1475-1500) o blwyf Clynnog Fawr yn fardd a oedd yn byw tua diwedd y 15g.[1] Meddir ei fod yn achyddwr yn ogystal â bardd ond yr unig weithiau sydd yn bendant o'i eiddo ac sydd wedi goroesi yw cywydd yn canmol pedwar mab Rhys ap Hywel ap Madog o Lanystumdwy; a chywydd i ganmol tafarnwraig o Gorwen. Mae nifer o hen lyfrau wedi honni ei fod yn byw tua 1570-1600, ond mae'n amlwg fod Eben Fardd ac eraill wedi cael eu camarwain, gan fod y cywydd i feibion Rhys ap Madog yn canmol pedwar brawd a oedd yn byw tua 1500.

Yr ail gywydd i oroesi, ac sydd wedi ei gyhoeddi, yw'r cywydd i Leucu ferch Fleddyn, tafarnwraig o Gorwen. Mae hwn yn rhan o lawysgrif ychwanegol yr Amgueddfa Brydeinig, 14967. Ymddangos o'r cyd-destun mai aelod o deulu Nannau oedd Lleucu, ac o dras bonheddig felly.[2]

Mae'r cywydd ar gael mewn llythyr a anfonodd Eben Fardd at olygydd Y Brython ym 1860.[3]

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur ar lein, [1], cyrchwyd 4.6.2024
  2. E. Bachellery, Le poète Hywel Gethin et le MS. British Museum Additional 14967 yn Études Celtiques, ffasc.5.2 (1950), tt.248-259, [2]
  3. Eben Fardd, llythyr yn Y Brython, Mehefin 1860, tt.233-4