Ysgol Llanllyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:47, 22 Mai 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Mr Glyn Owen (prifathro) a rhai o'r disgyblion yn dathlu canmlwyddiant yr ysgol, 1963. CC-BY-2.0 (LlGC, Casgliad Geoff Charles)

Sefydlwyd Ysgol Frytanaidd Llanllyfni yn y pentref ym 1863, a chynhaliwyd canmlwyddiant ei sefydlu fis Mehefin 1963, pan oedd Mr Glyn Owen yn brifathro. Mae’r ysgol, a elwir bellach yn Ysgol Gynradd Llanllyfni, yn dal yn agored gyda thua 90 o ddisgyblion. Dysgir trwy gyfrwng y Gymraeg.

Athro cyntaf yr ysgol oedd Hywel Roberts (Hywel Tudur) ar ôl dwy flynedd fel athro Ysgol Clynnog. Er ei fod yn fardd a chynganeddwr nodedig yn ei ddydd ac yn ŵr o ddiwylliant, [1]ymfalchïodd yn ei ddefnydd o'r "Welsh Not" a'i lwyddiant mewn alltudio'r Gymraeg o'r ysgol.[2]

Yn wreiddiol, roedd Ysgol Llanllyfni yn gorfod derbyn plant o ardal Pen-y-groes ond fel y tyfodd yr ardal honno, teimlid fod rhaid cael ysgol newydd yno, ac ar ddechrau’r 1870au codwyd ysgol newydd yno gan y Gymdeithas Ysgolion Brytanaidd.[3]

Ym mis Hydref 1873 trosglwyddwyd Ysgol Llanllyfni o’r Gymdeithas Brytanaidd i ofal Bwrdd Ysgol newydd etholedig plwyf Llanllyfni. Aed ati i wella’r adeilad nes y gellid ei ddisgrifio yn y papur newydd fel “a very good and convenient schoolroom”, ac fe agorodd ar ei newydd wedd fis Ionawr 1874. James Evans, a ddaeth o Goleg Normal Bangor, gafodd ei benodi’n brifathro, a phenodwyd un Miss Hughes a oedd gynt yn athro-ddisgybl yng Nghaergybi, yn athrawes gynorthwyol.[4].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), t.86
  2. Gweler erthygl y Cof amdano
  3. North Wales Chronicle, 5.6.1869, t.3
  4. Caernarvon and Denbigh Herald, 17.1.1874, t.5