R. L. Gapper
Robert Lambert Gapper 1896-1984 Llanaelhaearn ac Aberystwyth. Arlunydd medrus oedd RL Gapper ond yn fwy arbennig o lawer roedd o hefyd yn gerflunydd o fri cenedlaethol. Fe'i magwyd mewn tŷ moel, Bryn Hyfryd, gyferbyn ag eglwys Llanaelhaearn. Rhannai'r un Taid a Nain, Henry a Catherine Hughes, Cwm Coryn, Llanaelhaearn, â'i gefnder enwog, Syr David Hughes Parry. Hen Daid RL Gapper oedd yr arlunydd naif y Parchedig Robert Hughes, Uwchlaw'r ffynnon Llanaelhaearn.Gwraig RL Gapper oedd Florence Jones (g.1912), Tŷ'n Coed, Clynnog Fawr, a ganwyd iddynt ddwy ferch, Ann a Catrin, a dau fab, Huw a Dafydd. roeddent fel teulu yn byw ym Meiros Llanbadarn Fawr, Ceredigion, a gweithiai'r tad yng ngholeg Aberystwyth. Dyma rai o brif weithiau RL Gapper yng Nghymru: 1. Capel Coffa Llyn Celyn. 2. Giât haearn mynwent Llanuwchllyn. 3. Pulpud coffa y bardd Goronwy Owen yn Llanfair Mathafarn Eithaf, Sir Fôn. 4.Cerflun Rhyfel dadleuol ' Y Fam a'i Phlentyn ' sydd yn awr yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth. 5. Y Golomen a'r Beibl a fu ar do Capel Seilo, Aberystwyth, (dymchwelwyd y capel hwn). 6. Panel Derw cerfiedig yn eglwys Llangwyryfon, Ceredigion, sy'n portreadu'r pedwar efengylydd fel creaduriaid, a Christ fel hwrdd mynydd Cymreig. 7. Carreg goffa Dafydd ap Gwilym, mewn Cymraeg a Lladin, a welir ar un o furiau abaty Ystrad Fflur. Fe'i gladdwyd ar bwys eglwys Llanaelhaearn.
Cyfeiriadau
- Gŵr Hynod Uwchlawr'rffynnon, gan Geraint Jones, 2008
- Ffeil drwchus bersonol wedi ei chasglu gan fab R L Gapper, Dafydd, a'i throsglwyddo i Geraint Jones, Trefor.
- O Syr, Mynte Nain allan o Epil Gwiberodyr Iwnion Jac gan Geraint Jones 2009
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma