Tyddyn Madyn a Llain Fadyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:44, 11 Ebrill 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae anheddau Tyddyn Madyn a Llain Fadyn yn ardal Rhos-isaf o fewn plwyf Llandwrog. Ceir cyfeiriad at Dyddyn Madyn yn y ffurf Tythyn Madyn ym 1696 (Casgliad Mostyn, Prifysgol Bangor) ac ni welir fawr amrywiad ar sillafiad yr ail elfen dros y blynyddoedd. Gallai'r ail elfen fod yn enw cyffredin madyn, sef llwynog. Felly, mae'n bosib mai cyfeiriad at lwynog sydd yn enwau Tyddyn Madyn a Llain Fadyn. Bu tŷ o'r enw Llain y Llwynog ar Forfa Dinlle ar un adeg. Mae cael enwau anifeiliaid neu adar yn rhan o enw lle yn beth cyffredin iawn.

Fodd bynnag, mae'n fwy tebygol fod yr elfen madyn yma'n coffáu dyn o'r enw Madog a oedd unwaith yn gysylltiedig â'r anheddau hyn. Mae madyn yn ffurf anwes gyffredin ar yr enw Madog. Ceir Tyddyn Madyn yng Nghlynnog a cheir y ffurf Tyddyn Madyn Goch yn Llanystumdwy.

Symudwyd hen fwthyn Llain Fadyn, a adeiladwyd ym 1762, i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, lle cafodd ei ail-godi ym 1962.[1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.248-9.