Dinas Franog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:42, 13 Mawrth 2024 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mewn cofnodion rhwng 1757 a 1839 ceir sawl cyfeiriad at le o'r enw Dinas Franog ar dir Rhedynogfelen Fawr ym mhlwyf Llanwnda. Hawdd yw egluro'r elfen gyntaf, sef dinas, yn golygu caer neu amddiffynfa. Ymddengys mai ansoddair yw'r branog yn yr ail elfen. Ni nodir branog yn Geiriadur Prifysgol Cymru, ond yng ngeiriadur William Owen Pughe (1832) ceir branawg a'i ystyr medd Pughe yw 'o natur brân'. Nid oedd damcaniaethau Pughe ar dir cadarn bob amser yn sicr, ond os yw ei ddehongliad yn gywir, gallai branog gyfeirio at rywle lle byddai brain yn ymgasglu neu fe allai fod yn enw dirmygus ar rywle sydd wedi mynd a'i ben iddo ac yn addas i ddim ond brain. Ym 1793-5 cyfeiriodd yr hynafiaethydd Peter Bailey Williams at Dinas Efrog or Franog near Collfryn in Llandwrog. Er bod Collfryn ym mhlwyf Llandwrog a Rhedynogfelen Fawr ym mhlwyf Llanwnda, mae'r ddau dŷ yn ddigon agos at ei gilydd i awgrymu mai'r un lle oedd hwnnw. Cyfeiriodd W. Gilbert Williams hefyd at y lle fel 'Dinas Efrog neu Franog', ond cyfeiriodd ato hefyd fel 'Dinas Ffranog' gan ddweud ei bod yn 'ddinas Rufeinig' (caer mae'n debyg) ar lan Afon Carrog.[1]

Cyfeiriadau

1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.138-9.