Glesni Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:29, 10 Mawrth 2024 gan Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Glesni Jones, Llandwrog

Telynores a fu’n arweinydd Parti Lleu o 1977 hyd at ddechrau’r ganrif bresennol. Ganwyd a magwyd hi yn Llanuwchllyn, yn ferch i Einion Edwards, Tyddynronnen, datgeinydd cerdd dant poblogaidd ac aelod o Gôr Godre’r Aran o’r dechrau. Mae hi wedi cartrefu yn Llandwrog ac yn briod ag Osborn Jones.

Daeth cryn lwyddiant i Barti Lleu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru dan ei harweiniad. Fe’i sefydlwyd gan Carys Puw Williams i gystadlu yn Eisteddfod Cricieth a’r Cylch yn 1975 ond a roddodd y gorau iddo pan ymgymerodd ei gŵr, y Parchedig Meurwyn Williams, â gofal eglwys arall yng Nghaerdydd. Cymerwyd awenau’r Parti gan Glesni, gan ddod i’r brig ar y gystadleuaeth i bartïon cerdd dant yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon yn 1979. Bu 1980 a 1981 yr un mor llwyddiannus gan ddod i’r ail neu drydedd safle yn gyson o hynny ymlaen. Bu’n cystadlu hefyd yn yr Ŵyl Cerdd Dant o’r wyth degau ymlaen gan ddod i’r ail neu drydedd safle yn bur aml. Yn y naw degau roedd y Parti wedi datblygu’n gôr – Côr Arianrhod – ac o dan arweiniad Glesni daethant i’r drydedd safle yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1997 a’r ail safle yn 1999. Mae hi wedi cartrefu yn Llandwrog ac yn briod ag Osborn Jones.