Cae'r Bongam a Tyddyn Bengam
Wrth afon Carrog rhwng pentref Llanwnda a Bethesda Bach roedd tŷ o'r enw Cae'r Bongam. Roedd ar fap Ordnans 1920 a'r cyfeiriad cynharaf a welwyd ato oedd ym 1724, sef Cae Bongam (Casgliad Henblas B, Prifysgol Bangor). Ansoddair yw'r ail elfen bongam, sy'n golygu rhywun â choesau cam neu goesau bachog (bow-legged). Mae'n bosib fod yr enw'n deillio oddi wrth rywun a oedd â'r nodwedd hon ac a lysenwid 'Y Bongam' ac a oedd ar ryw adeg yn berchen neu ddeiliad y tir. Ceir cyfeiriadau at bobl gyda'r llysenw hwn, megis un Dafydd Bongam Goch, a oedd yn y llys yng Nghaernarfon ym 1362. Fodd bynnag, dywed Glenda Carr na ellir anwybyddu'r ffurf Caebengan a geir yn asesiad yn Dreth Dir am 1807, ac y gall hyn fod yn olion yr enw 'ab Engan'. Roedd Engan yn ffurf gyffredin iawn ar yr enw Einion. Mae'r posibilrwydd hwn yn arwain at enw arall, sef Tyddyn Bengam, sydd rhwng Y Groeslon a Phen-y-groes. Yno'n sicr y cyfuniad 'ab Engan' a geir. Ym 1707 enwir y lle fel Tyddyn Ednyved ap Engan (Casgliad Newborough, Glynllifon) ac ym 1728 a 1733 ymddangosodd enw llawnach, sef Tyddyn Ednyfed David ap Engan (Casgliad Plas Coch, Prifysgol Bangor). Llurguniwyd yr enw i sawl ffurf mewn dogfennau dilynol, nes cael Tyddyn-bengam ym map Ordnans 1920. Tyddyn Bengan sydd yng Nghyfeiriadur y Cod Post presennol.[1]
Cyfeiriadau
1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011, tt.78-9.