Cae Sion / Caesion

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:24, 28 Chwefror 2024 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Caesion Isaf yn enw ar dŷ ar gyrion gorllewinol pentref Carmel. Cae Siôn Dafydd oedd ei enw llawn gwreiddiol a bu'n dyddyn bychan o thua phum erw. Am ryw reswm cyfunwyd dwy elfen gyntaf yr enw llawn ar lafar a'i ynganu fel Caesion, gyda'r acen ar y sill gyntaf. Ceir Cae Sion Dafydd mewn cofnod o 1718 (Casgliad Porth yr Aur, Prifysgol Bangor) a Causiondafydd a geir yn asesiad y Dreth Dir am 1827. Ar ôl hynny diflannodd yr elfen Dafydd.[1] Ni wyddys o gwbl pwy oedd y Siôn Dafydd hwn a roes ei enw i'r cae, ond mae'n amlwg ei fod yn mynd yn ôl fan leiaf dair canrif.

Cyfeiriadau

Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.101.